Mae daeargryn 6.0 ar y Raddfa Richter wedi ysgwyd gogledd-ddwyrain Taiwan, a hynny ar drothwy storm drofannol bwerus.

Ond, ar wahân i fan ddifrod, does dim adroddiadau am bobol wedi eu lladd na’u hanafu.

Yn ôl swyddfa monitro daeargrynfeydd y wlad, fe darodd y daeargryn toc cyn 5.30yb heddiw (dydd Iau, Awst 8) yn y Cefnfor Tawel rhyw 22 milltir i’r de-ddwyrain o ddinas Yilan.

Mae’r un ardal wedi cael rhybudd gan y swyddfa dywydd ar drothwy Teiffŵn Lekima.

Mae disgwyl gwyntoedd cryfion a glaw trwm drwy gydol y dydd, gyda phosibilrwydd o wyntoedd yn cyrraedd cyflymdra o 114 milltir yr awr.