Mae Donald Trump wedi gorfod wynebu protestwyr wrth ymweld ag Ohio a Texas i gyfarfod â galarwyr y 31 o bobol a fu farw mewn dau ymosodiad ar wahân dros y penwythnos.
Fe ddechreuodd yr Arlywydd a’i wraig, Melania Trump, eu taith drwy ymweld ag ysbyty yn ninas Dayton, Ohio, lle cafodd nifer o’r dioddefwyr eu trin ddydd Sul (Awst 4).
Roedd o leiaf 200 o brotestwyr wedi ymgasglu y tu allan i Ysbyty Miami Valley, gan alw ar Donald Trump i fynd i’r afael â’r broblem gynnau yn y wlad.
Yn El Paso, Texas, wedyn, fe deithiodd cerbyd yr Arlywydd heibio i brotestwyr a oedd yn dal arwyddion yn cynnwys y geiriau, ‘Racist Go Home’.
Daw wrth i Donald Trump gael ei feirniadu am ei ddefnydd o ieithwedd wrth-fewnfudol, gyda’r cyn-Ddirprwy Arlywydd, Joe Biden, wedi dweud bod ieithwedd o’r fath yn abwyd i eithafwyr gwyn.