Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am roi’r hawl i ffoaduriaid yng Nghymru ddysgu’r Gymraeg.
Polisi Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw “Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill”, meddai’r Gymdeithas, sy’n tynnu sylw at y gwersi Saesneg rhad ac am ddim sy’n cael eu cynnig.
Ond maen nhw’n dweud nad oes cynllun tebyg yn ei le i ddysgu’r Gymraeg, a bod rhaid i ffoaduriaid dalu am wersi ar hyn o bryd.
Fe fu’r Gymdeithas yn rhoi pwysau ar Gomisiynydd y Gymraeg, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Llywodraeth i gydweithio i greu polisi ar gyfer y Gymraeg.
Digwyddiad ar Faes yr Eisteddfod
Mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, fe fydd Joseff Gnagbo yn siarad ar stondin Cymdeithas yr Iaith am y profiad o ddysgu Cymraeg.
“Rydyn ni’n falch bod y Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw’n agored i’r syniad o lunio polisi Cymraeg ar gyfer mudwyr,” meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith.
“Nod canolog y polisi ddylai fod sicrhau’r amodau lle mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches, sydd ymysg y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn cael mynediad llawn at y Gymraeg – iaith a ddylai fod yn hawl i bawb sy’n byw yng Nghymru.
“Byddai llunio polisi o’r fath yn gam pwysig ymlaen yn y broses o normaleiddio’r Gymraeg a chyflawni nod y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
“Wedi’r cwbwl, mae’r ffoaduriaid sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn llwyddiannus yn ysbrydoli pobl ledled y wlad i ddysgu ac yn codi hyder pawb yng Nghymru i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw.
“Dyma ffordd arbennig o gynnwys ffoaduriaid yn ein cymdeithas a gwireddu’r weledigaeth o wneud Cymru’n Genedl Noddfa.”