Mae dynion arfog wedi llwyddo i ddianc gyda darnau aur o arian yn eu meddiant ar ôl cyrch ar bencadlys bathu arian Mecsico.

Fe gafodd y grŵp o ladron, a oedd yn cynnwys tri dyn, fynediad i’r pencadlys yn Ninas Mecsico, gan ddwyn eitemau o gelloedd a oedd “yn agored”, yn ôl yr awdurdodau.

Maen nhw’n ychwanegu bod eitemau gwerthfawr fel oriaduron, ynghyd â darnau o arian, wedi cael eu dwyn hefyd.

Mae’r wasg yn lleol yn amcangyfrif bod gwerth 50 miliwn pesos (£2m) wedi diflannu.