Mae rheolwyr siop yn nhref Pwllheli, lle mae dynes yn honni iddi gael ei chynghori i adael ar ôl gofyn am gymorth yn Gymraeg, wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater.

Dywedodd Glenys Jones, 68, iddi gael ei “dychryn” wrth fod yn rhan o ffrae iaith yng nghangen leol The Original Factory Shop ar y stryd fawr brynhawn Llun (Awst 5).

Yn ôl rheolwyr y siop ei hun, maen nhw wedi cael eu “siomi” o glywed y gŵyn.

“Mae gan yr Original Factory Sop 168 o siopau ledled y wlad ac rydym yn falch iawn bod un ar bymtheg ohonynt yng Nghymru,” meddai’r datganiad. “Yn ein siop ym Mhwllheli, mae mwyafrif o’r gweithwyr yn Gymry Cymraeg.

“Roeddem felly wedi ein siomi o glywed am y gŵyn a bellach mae’r cwmni yn ymchwilio i’r mater.