Dylai’r Eisteddfod roi lle eto i’r Gorlan ar dir MaesB, am fod ei hangen “yn fwy nag erioed”.
Dyna farn y gweinidog a fu’n gyfrifol am drefnu’r Gorlan yn yr Eisteddfod y tro diwethaf iddi fod yn Llanrwst yn 1989.
Mae’r Parchedig Aled Davies yn cyhuddo’r Eisteddfod o “droi eu cefn” ar y Gorlan ar ôl blynyddoedd o’i chefnogi.
“Mi oedd y Gorlan yn rhan rywsut o brofiad Eisteddfod i lot fawr o bobol,” meddai’r gweinidog, a oedd yn trefnu’r Gorlan yn 1989 ar y cyd â Nia Williams a Nia Gwyn.
“Mi oedd yna griw ifanc nid yn unig yn rhedeg bar coffi, ond yn glust i wrando, i helpu pobol mewn trafferthion…
“Y gair cyfoes heddiw: mi oedden nhw’n ‘fugeiliaid y stryd’. Erbyn hyn wrth gwrs mae’r Eisteddfod yn gorfod cyflogi swyddogion diogelwch ac yn tynnu pobol ddieithr i wneud lot o’r gwaith yma.
“Roedd y bobol yma, y rhan fwyaf yn y brifysgol, yn adnabod eu clientelle.”
Mae’n credu y dylai’r Gorlan fod ar dir Maes B, “yn bendant”.
“Mae eu hangen nhw yn fwy nag erioed,” meddai Aled Davies wedyn. “Mae e’n golled.
“Siaradwch chi â chymaint o bobol, maen nhw’n hiraethu am y Gorlan. Maen nhw’n gweld y Gorlan ar faes y Gymdeithas ac o gwmpas y lle, ond dyw e ddim yr un fath.”
Y tad a’r mab
Eleni, mab Aled Davies – Gruffydd Rhys Davies – a Gwilym Tudur sy’n trefnu’r Gorlan ar ei newydd wedd, a hynny mewn pabell ar faes pebyll Cymdeithas yr Iaith ac wrth y llwyfan berfformio ar y Maes.
Mae gazebo bach hefyd yn rhannu dŵr y tu allan i westy’r Eryrod yng nghanol Llanrwst lle mae gigs y Gymdeithas eleni.
“Criw da o Gristnogion ifanc yn eu 20au cynnar sydd wrthi’n gwneud,” meddai Aled Davies, “ac yn ei wneud e’n wirfoddol.”
Yn 1989 roedd y Gorlan yn bump oed, ar ôl i’r fenter gael ei sefydlu gan griw o Gristnogion ifanc yn ystod yr Eisteddfod yn Llanbedr Pont Steffan yn 1984.
Bryn Fôn a Brengain a’r Gorlan
Y Gorlan yn Llanrwst yn 1989 a roddodd fodolaeth i gân enwog Sobin a’r Smaeliaid, ‘Brengain’, sy’n sôn am y canwr yn ‘eistedd yn y Gorlan Goffi yn ‘cofleidio panad o de’.
Yn gynnar ar un bore Sadwrn, daeth Brengain – sef chwaer y DJ Huw Stephens mewn bywyd go iawn – i mewn i’r Gorlan, gan ddatgan bod ‘pybs y dre i gyd wedi cau’.
“Mi oedd Bryn Fôn yno ar y pryd,” meddai Aled Davies. “A dyna o le ddoth y gân.”
Yn y gân, mae’r llinell ‘… a’r Efengyls yn dweud jiw jiw’. “Mae’n debyg mai Gwenan Creunant oedd yn dweud ‘jiw jiw’,” meddai Aled Davies wedyn.
Efallai bydd cyfle i glywed Bryn Fôn ei hun yn canu’r gân ‘Brengain’ ym mhabell Cytûn rywbryd yn ystod yr wythnos, yn ôl Aled Davies. “Mae e wedi dweud ei fod am alw i mewn i ddweud helo a hel atgofion am 30 mlynedd yn ôl.”