Mae daeargryn yn mesur 5.2 ar y raddfa wedi ysgwyd ynys Creta, ond does dim adroddiadau o ddifrod ar hyn o bryd.

Dywed Sefydliad Geodynamig Athen fod y daeargryn wedi digwydd am 7.40yb amser lleol tua 14 milltir i’r gorllewin o brifddinas ynys Iraklion.

Dywed y gwasanaeth tân yn Creta na chawson nhw unrhyw adroddiadau o broblemau difrifol.

Mae daeargrynfeydd cryf yn gyffredin yng ngwlad Groeg. Mae’r wlad yn gorwedd yn un o rannau mwyaf sensitif y byd i ddaeargrynfeydd, ond mae difrod neu anafiadau difrifol yn brin.