Mae o leiaf 32 o bobol, gan gynnwys nifer i blant, wedi cael eu lladd ar ôl i fom ffrwydro bws yng ngorllewin Affganistan.

Dywed llefarydd ar ran yr heddlu yn rhanbarth Farah, bod 15 o bobol eraill wedi cael eu hanafau hefyd, gan ddatgan y gall nifer y meirwon godi.

Roedd y bws yn teithio ar briffordd rhwng dinasoedd Herat a Kandahar a does neb wedi cymryd cyfrifoldeb eto, ond mae’r Taliban yn gosod bomiau ar ochr lonydd yn gyson yn yr ardal.

Maen nhw’n parhau i gynnal ymosodiadau yn gyson er eu bod wedi bod yn rhan o drafodaethau heddwch gyda’r Unol Daleithiau gan obeithio rhoi diwedd ar ryfel 18 mlynedd.

Daw’r ymosodiad diwrnod ar ôl i’r Cenhedloedd Unedig rhyddau adroddiad yn dweud mai lluoedd Affiganistan a gwledydd eraill sydd yn gyfrifol am hanner marwolaethau sifiliaid yn hanner cyntaf 2019.

Mae hwnnw’n dangos bod 403 o bobol gyffredin wedi cael eu lladd gan luoedd Affganistan yn chwe mis cyntaf y flwyddyn, a 314 gan bwerau rhyngwladol – sy’n gwneud cyfanswm o 717.