Mae arweinydd y Brexit Party, Nigel Farage, yn dweud y byddai’r Ceidwadwyr yn cael eu “chwalu” os nad yw’r Prif Weinidog yn sicrhau Brexit erbyn Hydref 31.
Ar hyn o bryd mae Nigel Farage yn dal yn ôl rhag ochri gyda’r Torïaid – er iddo longyfarch Boris Johnson ar ei berfformiad ers cyrraedd Rhif 10, Stryd Downing.
Mae’n dweud y dylai pleiydleiswyr hefyd ddal yn ôl cyn barnu ei allu i sicrhau Brexit heb gytundeb.
Nid oedd Mr Johnson yn bwriadu gadael yr Undeb Ewropewidd erbyn Calan Gaeaf ond roedd yn ceisio gwella’r sefyllfa mae gwledydd Prydain ynddi o ran trafodaethau dros y cytundeb, meddai Nigel Farage ym mhapur newydd The Daily Telegraph.
“Rhaid peidio ag anghofio bod Boris Johnson wedi pleidleisio dros y cytundeb am y trydydd tro.
” Os mai pasio’r cytundeb yma yw ei uchelgais ar gyfer Brexit, bydd fy mhlaid yn ei wrthwynebu’n gryf,” meddai Nigel Farage wedyn.
Mae’r Brexit Party yn paratoi i osod ymgeiswyr yn rhanbarthau’r Blaid Lafur yng Nghymru a gogledd a chanolbarth Lloegr, mewn etholiad cyffredinol.
Yn ôl Nigel Farage, ni fyddai’r Torïaid fyth yn gallu ennill y seddi hynny, oedd wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.