Mae miloedd o fyfyrwyr wedi ymgynnull ar strydoedd Khartoum, prifddinas Swdan, ac ar drawes y wlad mewn protest yn erbyn trais yn erbyn cyd-fyfyrwyr.

Mae fideos ar-lein yn dangos miloedd yn eu gwisgoedd ysgol yn gorymdeithio ar ôl i bump o bobol fael eu lladd ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 30) yn nhalaith ogleddol y wlad, Kordofa.

Fe saethodd y lluoedd diogelwch fwledi i wasgaru myfyrwyr yn ninas Obeid. Lladdwyd o leiaf pump o bobol, gan gynnwys pedwar myfyriwr.

Fe alwodd Asiantaeth Gweithwyr Proffesiynol Swdan am orymdaith heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 29).

Mae’r grŵp wedi bod yn protestio er misoedd yn arwain at ddisodli’r Arlywydd Omar al-Bashir gan y fyddin ym mis Ebrill.

Ers i’r fyddin feddiannu Sudan, mae’r gymdeithas wedi mynnu i bŵer gael ei drosglwyddo’n gyflym i’r bobol.