Mae Alastair Campbell wedi dweud nad oes ganddo’r awydd lleiaf i ail-ymaelodi â’r Blaid Lafur tra bo Jeremy Corbyn yn arweinydd.

Cafodd cyn-bennaeth y wasg Tony Blair ei wahardd o’r blaid ym mis Mai ar ôl iddo gyfaddef pleidleisio tros y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad Ewropeaidd.

Roedd wedi gwneud hynny, meddai, fel protest yn erbyn safbwynt y Blaid Lafur ar ail refferendwm Brexit, a’i fwriad yn wreiddiol oedd apelio yn erbyn ei waharddiad.

Ond mewn llythyr agored sydd wedi ei gyfeirio at Jeremy Corbyn, mae Alastair Campbell yn nodi ei fod bellach wedi newid ei feddwl ynghylch ailymaelodi â’r blaid.

Cwyno am Jeremy Corbyn a Brexit

“Ag ychydig o dristwch ond yn hollol gadarn, dw i wedi penderfynu nad ydw i’n dymuno aros yn rhan o’r blaid, hyd yn oed os byddai fy apêl neu fy her gyfreithiol yn llwyddiannus,” meddai Alastair Campbell yn ei lythyr, sydd wedi ei gyhoeddi yn The Guardian a’r New European.

“Mae’r diwylliant yr ydych chi wedi helpu ei greu yn gwneud y blaid, yn fy marn i, yn un sydd ddim yn cynrychioli fy ngwerthoedd bellach, na’m gobeithion ar gyfer Prydain.”

Mae Alastair Campbell yn mynd yn ei flaen i ddweud nad yw’n rhoi’r bai ar Jeremy Corbyn am Brexit, ond ychwanega fod y Blaid Lafur wedi methu â mynd i’r afael â’r mater a’i bod yn wynebu colli mewn etholiad cyffredinol.

“Dydw i ddim yn gweld unrhyw arwyddion eich bod chi, na’ch swyddfa, yn deall difrifoldeb yr hyn sy’n digwydd, heb sôn am greu neu gychwyn gweithredu strategaeth i ymateb iddo a’i faeddu,” meddai wedyn.

Safbwynt Llafur ar Brexit

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Jeremy Corbyn y bydd Llafur yn “ymgyrchu i aros” os bydd y Prif Weinidog newydd, Boris Johnson, yn cyflwyno cytundeb Brexit anffafriol i’r cyhoedd mewn ail refferendwm.

Ond yn ôl Alastair Campbell, sy’n ymgyrchydd brwd tros ail refferendwm, mae arweinyddiaeth Jeremy Corbyn ar Brexit yn ystod y tair blynedd ers y refferendwm cyntaf wedi bod yn “siom mawr”.