Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cynlluniau ar gyfer cyfnewidfa fysiau newydd yng Nghaerdydd, fel rhan o ddatblygiad 500,000 troedfedd sgwâr.

Bydd y gyfnewidfa yn cael ei rheoli gan gorff Trafnidiaeth Cymru, a bydd ganddi le ar gyfer 14 o fysiau a choetsys ar ochr ogleddol gorsaf drenau Caerdydd Canolog.

Mae yna gynllun ar y gweill hefyd i ddatblygu’r ochr ddeheuol, gan greu pedwar bae ychwanegol fel rhan o gomplecs Caerdydd Canolog.

Mae’r cyfan yn rhan o brosiect ehangach i ailddatblygu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd Canolog.

Bydd y gyfnewidfa newydd hefyd yn cynnwys 318 o fflatiau a gwerth 100,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd.

Y gost

Mae’r cynllun yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, y cwmni ariannol, Legal & General, a’r datblygwyr, Rightacres Property.

Bydd y gyfnewidfa fysiau newydd yn derbyn £15m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith mewnol, a hynny ar ben y £15m a wariwyd ganddyn nhw i brynu’r tir.

Mae £40m hefyd wedi cael ei addo gan bartneriaid Bargen y Ddinas, a £15m gan Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Bydd cyfran o’r £58m a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Lywodraeth Prydain ar gyfer yr orsaf drenau, hefyd yn cael ei defnyddio.