Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn galw ar y Prif Weinidog Boris Johnson i wahardd ffracio.

Daw’r galwad yn dilyn adroddiad Llafur sy’n dangos y byddai’n parhau i ffracio am nwy yn atal gwledydd Prydain rhag cyrraedd eu targed o ael allyriadau carbon lawr i ddim.

Cafodd yr ymchwil ei gyhoeddi o flaen ymweliad Jeremy Corbyn i brotest yn safle cwmni ffracio Preston New Road Cuadrilla yn Lancashire.

Os yw’r DU yn manteisio i’r eithaf ar ei chronfeydd wrth gefn nwy siâl y byddai faint o garbon a ryddhawyd yn dileu unrhyw obaith i’r llywodraeth gyrraedd ei tharged erbyn 2050, yn ôl yr ymchwil.

“Angen gweithredu ar frys”

Dywedodd Llafur, hyd yn oed pe bai cynnydd yn parhau ar ei gyfradd bresennol, byddai targed 2050 y llywodraeth yn cael ei fethu o bron i 50 mlynedd.

“Mae angen i ni weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac mae hynny’n golygu bod y prif weinidog angen gwahardd ffracio ar unwaith ac am byth,” meddai Jeremy Corbyn.

“Y genhedlaeth nesaf, a’r bobol dlotaf fydd yn talu’r pris os bydd y llywodraeth Geidwadol hon yn parhau i roi buddiannau ychydig o lygryddion o flaen pobol.”

Dydi safbwyntiau Boris Johnson ar newid hinsawdd ddim yn eglur iawn. Dywed y Prif Weinidog fod y llywodraeth yn “gosod yr agenda newid yn yr hinsawdd wrth graidd absoliwt yr hyn yr ydym yn ei wneud.”

Er hynny, fe gyfeiriodd at gynhesu byd-eang fel “ofn cyntefig” sydd “heb Sylfaen” yn 2015.