Mae o leiaf 18 o bobol wedi cael eu lladd, y mwyafrif ohonynt ar y llawr, ar ôl i awyren byddin Pacistan blymio mewn i ardal breswyl yn ninas Rawalpindi.

Cafodd pump soldiwr, gan gynnwys dau o beilotiaid y fyddin, ac o leiaf 13 o bobol gyffredin, eu lladd yn ôl datganiad gan y fyddin. Yn ôl Farooq Butt, gwasanaeth argyfwng yn y wlad, roedd 15 o bobol wedi’u hanafu hefyd,

Roedd tanau, tai wedi’u difrodi, a malurion i’w gweld ym mhentref Mora Kalu ger y ddinas. Bu’n rhaid i filwyr a’r heddlu gau’r ardal er mwyn ymchwilio i’r digwyddiad.

Mae o leiaf dri ccartref wedi’u difrodi’n ddrwg ac mae cyrff y peilotiaid wedi cael eu hadfer o’r dinistr.

Yn ól y fyddin, roedd yr awyren ar hediad hyfforddi arferol pan ddigwyddodd y ddamwain.