Mae Alexei Navalny, arweinydd prif wrthblaid Rwsia, wedi cael ei gyhuddo o drefnu cynulliad cyhoeddus anghyfreithlon.
Fe fu’n galw am brotest ddydd Sadwrn (Gorffennaf 20) y tu allan i swyddfa Maer Mosgo, ar ôl i nifer o ymgeiswyr gael eu diarddel o etholiadau cyngor y ddinas, a fydd yn cael eu cynnal yn yr hydref.
Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n dweud iddo gael ei arestio y tu allan i’w gartref wrth iddo baratoi i fynd allan i redeg ac i brynu blodau ar gyfer pen-blwydd ei wraig.
Fe allai dreulio hyd at 30 diwrnod dan glo a chael dirwy o hyd at £3,800.