Mae Theresa May yn poeni’n fawr am ddyfodol y Deyrnas Unedig pe bai Brexit yn mynd rhagddo heb gytundeb, yn ôl pennaeth ei staff.

Dywed Gavin Barwell, y cyn-aelod seneddol Ceidwadol, fod y prif weinidog, sy’n gadael ei swydd heddiw, yn gweld Brexit heb gytundeb fel bygythiad i undod gwledydd Prydain.

Mae ei holynydd, Boris Johnson yn dweud ei fod am weld Brexit “doed a ddêl”.

“Mae hi’n undodwr angerddol ac mae hi wedi treulio cryn dipyn o amser yng Ngogledd Iwerddon yn ystod ei harweinyddiaeth,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

“A phob tro mae hi wedi bod ar ymweliad, roedd yna ymdeimlad ynghylch cyfuniad Brexit ar hyn a allai ei olygu o ran y ffin rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon a’r diffyg llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon a bygythiad hynny.

“Mae gan Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon ddyletswydd statudol i alw am bleidlais ar y ffin os yw hi’n credu bod tystiolaeth i’w chefnogi, felly ydy, mae hynny’n bryder gwirioneddol iddi.”

Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan yn ategu ei sylwadau.

“Fel mae’n sefyll heddiw, dw i’n credu y gallai e fod yn brif weinidog ola’r Deyrnas Unedig,” meddai wrth yr un rhaglen.

Undod y llywodraeth

Waeth bynnag am undod Prydain, fe fydd gan Boris Johnson, ei holynydd, gryn waith o’i flaen i sicrhau undod o fewn y llywodraeth.

Tra bod nifer o aelodau blaenllaw o’r Cabinet, a rhai cyn-weinidogion, yn dweud nad ydyn nhw’n fodlon bod yn rhan o’r Cabinet newydd, mae Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd yn dweud y byddai’n fodlon derbyn unrhyw swydd yn y weinyddiaeth.

“Mae gen i farn hen ffasiwn ar y pethau hyn. Os yw eich prif weinidog yn gofyn i chi wasanaethu fel gweinidog, dyna rydych chi’n ei wneud,” meddai wrth orsaf radio LBC.

Daw ei sylwadau wrth i’r Blaid Lafur ddwyn pwysau ar rai Ceidwadwyr anfodlon i ymuno â nhw i gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth newydd o dan arweinyddiaeth Boris Johnson.

Ond mae Matt Hancock yn wfftio’r awgrym y gallai’r Ceidwadwyr gydweithio â Nigel Farage a Phlaid Brexit.

Disgwyl penodi ffigwr dadleuol

Yn y cyfamser, mae lle i gredu bod Boris Johnson yn barod i benodi Dominic Cummings yn ymgynghorydd.

Roedd e’n un o arweinwyr ymgyrch Vote Leave adeg refferendwm Ewrop yn 2016.

Yn gynharach eleni, cafwyd e’n euog o ddirmyg seneddol am wrthod rhoi tystiolaeth i bwyllgor o aelodau seneddol oedd yn ymchwilio i newyddion ffug.