Mae o leiaf ddwsin o bobol wedi marw mewn tirlithriadau yn ne-orllewin Tsieina, ac mae 34 o bobol yn dal i fod ar goll.

Fe gafodd 21 o dau eu claddu yn nhalaith Guizhou neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 23).

Bu farw 11 o bobol yn y digwyddiad, mae 11 o bobol erail wedi cael eu hachub, tra bod 34 o bobol eraill yn dal i fod ar goll.

Mae rhagor na 500 o weithwyr achub yn yr ardal ar hyn o bryd, yn ceisio dod o hyd i fwy o bobol yn fyw.

Yn gynharach ddoe (dydd Mawrth), fe lithrodd tir mewn pentref yn sir Hezhang yn Guizhou, gan ladd un person. Mae chwech o bobol yn dal ar goll yno.

Mae asiantaeth newyddion swyddogol Xinhua yn dweud fod y tirlithriad hwnnw wedi digwydd ar safle adeiladu.