Mae beth bynnag 25 o bobol wedi cael eu hanafu wedi i fws yn cario twristiaid o wlad Pwyl, Rwsa a Nrwy wyro oddi ar y ffordd ar arfordir y Mór Canldir yn Twrci.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ger cyrchfan wyliau boblogaidd Kemer yn rhanbarth Antalya.
Mae’r teithwyr wedi cael eu cludo i ysbytai yn Kemer a thref gyfagos Kumluca.
Mae rhai adroddiadau yn honni mai o wlad Pwyl y daw’r rhan fwya’ o’r bobol sydd wedi’u hanafu, a bod dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.