Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud iddyn nhw ddod o hyd i dri o blant oedd wedi bod ar goll o Landrillo-yn-Rhos.
Doedd Kiya Williams, 12, Lilly-Mae Owen-Roberts, naw, na Lewis Owen-Roberts ddim wedi cael eu gweld ers neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 23), ac roedd yr heddlu’n gofidio amdanyn nhw.
Mewn neges yn cadarnhau’r newyddion, mae’r heddlu’n diolch i’r cyhoedd am eu “consyrn” ac am rannu’r negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.