Mae’r heddlu yn Awstralia wedi cyhuddo gyrrwr ar ôl darganfod gwerth mwy na 200 miliwn o ddoleri Awstralia (£112m) o’r cyffur methamffetamin mewn fan a darodd i mewn i geir plismyn yn Sydney.
Fe darodd y fan Toyota HiAce y ceir y tu allan i orsaf heddlu Eastwood, gan achosi niwed sylweddol i un car. Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.
Ataliodd yr heddlu y fan mewn ardal gyfagos tuag awr yn ddiweddarach, ac fe gafodd dyn 28 oed ei ddwyn i’r ddalfa. Fe ddaeth y plismyn o hyd i 273kg (60 pwys) o grisialau meth yn y fan, gwerth mwy na 200 miliwn o ddoleri Awstralia.
Mae’r dyn wedi cael ei gyhuddo o gyflenwi swm masnachol o gyffuriau, o yrru yn esgeulus ac o beidio â rhoi ei fanylion i’r heddlu.