Mae chwech o ddynion yn y ddalfa yn Hong Kong, yn cael eu hamau o ymosod ar brotestwyr o blaid democratiaeth.
Fe gafodd dwsinau o bobol yn eu hanafu yn ystod y digwyddiad treisgar mewn gorsaf.
Mae’r dynion, rhwng 24 a 54 oed, yn cael eu cadw am “ymgynnull yn anghyfreithlon” tra bod ymchwiliad ar y gweill i ymosodiad yn hwyr nos Sul yn ardal Yuen Long.
“Mae gan rai ohonynt gefndir o ymosod,” meddai llefarydd ar ran heddlu Hong Kong.
“R’yn ni’n disgwyl y bydd rhagor o bobol yn cael eu harestio. Dydyn ni ddim yn fodlon goddef unrhyw fath o drais.”