Mae’r awdurdodau yn ninas Seoul yn dweud eu bod wedi tanio “rhybuddion” at awyrennau milwrol Rwsia a fu’n hedfan oddi mewn i ofod awyr De Corea.
Dywed Gweinyddiaeth Amddiffyn De Corea fod nifer o awyrennau Rwsia wedi bod yn hofran yn y gofod oddi ar arfordir dwyreiniol y wlad heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 23).
Mae’n cadarnhau i awyrennau jet gael eu hanfon i’r ardal, a’u bod wedi tanio ergydion er mwyn rhybuddio’r peilotiaid o Rwsia.
Maen nhw’n dweud fod awyrennau milwrol o Tsieina hefyd yn ymyrryd yn yr ardal uwchben De Corea heddiw.