Mae ardal fawr o Feneswela heb drydan, a’r llywodraeth yn beio gwrthwynebwyr am ddifrodi system bŵer y wlad.

Fe chwythodd y cyflenwad trydan yn y brifddinas, Caracas, toc wedi 4yp a pheri i draffig ddod i stop ar unwaith wrth i oleuadau a system reilffordd tanddaearol roi’r gorau i weithio yn ystod yr oriau brig.

Bron i dair awr wedi’r blacowt fe wnaeth yr awdurdodau dorri eu tawelwch a dweud mai “ymosodiad electromagnetig” ar gyfres o argaeau yn ne Venezuela oedd yr achos.

Cafodd yr un tramgwydd ei feio am gyfnod o bron i wythnos ym mis Mawrth, a adawodd filiynau o bobol Feneswela heb ddŵr na’r gallu i gyfathrebu ag anwyliaid.

Dywed y Gweinidog Cyfathrebu Jorge Rodriguez fod awdurdodau’n gweithio er mwyn ceisio adfer trydan cyn gynted ag y bo modd.