Mae Iran yn dweud ei fod wedi arestio 17 o bobol maen nhw’n honni sydd wedi cael eu recriwtio gan asiantaeth cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau (CIA) i ysbio ar safleoedd niwclear y wlad.
Yn ôl penaethiaid cudd-wybodaeth Iran mae’r 17 sydd wedi cael eu harestio yn ddinasyddion Iran, ac eisoes wedi cael dedfryd o farwolaeth.
Roedd yr arestiadau wedi digwydd dros y misoedd diwethaf, yn ôl cyfarwyddwr adran wrth-ysbio Iran mewn cynhadledd newyddion yn Tehran.
Dywed bod rhai o’r ysbiwyr yn gweithio mewn safleoedd niwclear a milwrol yno, ond nad oedden nhw wedi llwyddo i gael mynediad at gudd-wybodaeth.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r cytundeb niwclear rhwng Iran a gwledydd eraill ar draws y byd chwalu, a thensiynau yng Ngheufor Persia waethygu.