Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Charlie Elphicke wedi cael ei gyhuddo o dri achos o ymosodiad rhywiol yn ymwneud â dwy ddynes, yn ôl erlynwyr.
Honnir bod yr Aelod Seneddol yn etholaeth Dofr wedi cyflawni’r drosedd gyntaf yn 2007 yn erbyn un achwynydd a dau drosedd arall yn erbyn ail achwynydd yn 2016, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Bydd yn ymddangos yn llys ynadon San Steffan ar Fedi 6.
Cafodd Charlie Elphicke, 49, ei atal o’r blaid Geidwadol ym mis Tachwedd 2017 ar ôl i honiadau a wnaed yn ei erbyn gael eu cyfeirio at yr heddlu.
Ond ar 12 Rhagfyr y llynedd, cafodd chwip y Ceidwadwyr ail-gyfle cyn yr etholiad gan Theresa May.
“Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron gyhuddo Charlie Elphicke ar ôl adolygu ffeil o dystiolaeth gan yr heddlu Metropolitan,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron.
“Ry’n ni’n atgoffa pawb sy’n gysylltiedig bod achosion troseddol yn erbyn Charlie Elphicke bellach yn weithredol a bod ganddo hawl i achos teg. Mae’n eithriadol o bwysig na ddylid adrodd, sylwebu na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai beryglu’r trafodion hyn mewn unrhyw ffordd. ”