Mae hunan-fomwraig wedi achosi ffrwydrad ger ysbyty ym Mhacistan, gan ladd naw o bobol.
Roedd yr ysbyty eisoes yn ymdrin ag achos o saethu yn erbyn yr heddlu ac yn dod â chleifion i mewn i’r adeilad pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Cafodd dau o bobol eu saethu’n farw yn y digwyddiad hwnnw, a 30 o bobol wedi’u hanafu yn y ffrwydrad.
Taliban Pacistan sy’n hawlio cyfrifoldeb.
Cafodd pedwar o blismyn eu lladd yn y ffrwydrad, ynghyd â thri o bobol oedd yn ymweld â’u hanwyliaid yn yr ysbyty.
Mae nifer o bobol mewn cyflwr difrifol.
Taliban Pacistan
Er bod Taliban Pacistan wedi hawlio cyfrifoldeb, dydyn nhw ddim wedi cadarnhau mai dynes oedd wedi achosi’r ffrwydrad.
Mae ymosodiadau o’r fath ganddyn nhw’n gyffredin, ond dynion sydd fel arfer yn gweithredu.
Fe fu awdurdodau Pacistan yn ceisio mynd i’r afael â nhw ar y ffin ag Affganistan dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae llai o ymosodiadau erbyn hyn, ond maen nhw fel arfer yn targedu’r lluoedd diogelwch a lleiafrifoedd crefyddol.