Mae gweinidogion San Steffan yn ystyried rhewi asedau Iran ar ôl i dancer olew Prydeinig gael ei gipio.
Mae disgwyl i Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Tramor, gyhoeddi camau yfory (dydd Llun, Gorffennaf 22) i ymateb i’r sefyllfa, ar ôl i Iran feddiannu’r Stena Imperto, yn ôl y Sunday Telegraph.
Ac mae’r papur newydd hwnnw’n awgrymu y gallai San Steffan geisio ail-gyflwyno’r sancsiynau oedd yn eu lle yn 2016, ond a gafodd eu codi’n ddiweddarach mewn perthynas â rhaglen niwclear y wlad.
Mae lle i gredu y byddai Llywodraeth Prydain yn ceisio sêl bendith eu cynghreiriaid yn y Cenhedloedd Unedig cyn cyflwyno sancsiynau.
Mae Jeremy Hunt yn dweud bod gweithredoedd Iran yn codi “cwestiynau difrifol iawn” am ddiogelwch y moroedd yn Hormuz, a’u bod yn groes i gyfraith ryngwladol.
Yn ôl Jeremy Hunt, mae Iran yn dadlau bod y weithred o gipio’r tancer olew yn ffordd o ddial am atal llong Grace 1 yn Gibraltar, ond mae yntau’n wfftio hynny.
Roedd Grace 1 yn cludo olew i Syria yn groes i gyfreithiau Ewropeaidd, meddai.
Mae’r Unol Daleithiau, Ffrainc a’r Almaen i gyd yn beirniadu Iran ynghylch y sefyllfa.