Mae o leiaf naw o bobol wedi marw wedi i gerbyd foelyd ar ffordd yn y Ffilipinas.
Roedd y tryc yn cludo plant ysgol i ŵyl ddiwylliannol pan gwympodd ar ei ochr ger tref Boljoon yn nhalaith Cebu.
Mae athro ac o leiaf wyth o blant wedi marw yn sgil hynny, ac mae 16 arall – gan gynnwys y gyrrwr – wedi cael eu hanafu.
Roedd rhai o’r disgyblion yn sownd o dan y cerbyd, a chwympodd sawl un arall allan o’r cerbyd wrth iddo wyro.
Mae’r fath ddamweiniau yn gyffredin yn y Ffilipinas yn rhannol oherwydd bod diffyg arwyddion, ac oherwydd cyflwr y cerbydau ar y ffyrdd.