Mae saith o bobol wedi’u lladd a dros 100 wedi’u hanafu wedi i storm bwerus daro gogledd Groeg.
Tarodd y storm nos Fercher (Gorffennaf 6) gan ddinistrio coed, peilonau a cherbydau ar hyd arfordir penrhyn Halkidiki.
Yn ôl awdurdodau mae dau blentyn ymhlith y meirw, cafodd tua 140 eu hanafu, ac mae 23 o bobol yn parhau yn yr ysbyty.
O’r rheiny a fu farw roedd chwech yn dwristiaid – dau o Rwsia, dau o Weriniaeth Tsiec, a dau o Rwmania. Pysgotwr oedd y seithfed person a fu farw.
Mae penrhyn Halkidiki yn agos i ddinas Thessaloniki ac yn boblogaidd â thwristiaid.