Mae dyn o Rwmania wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth mam-gu a gafodd ei cholbio i farwolaeth yn nhŷ ei chyfeillion yng Ngorllewin Sussex dros bum mlynedd yn ôl.
Roedd Valerie Graves yn gwarchod cartref ei ffriniau yn Bosham ym mis Rhagfyr 2013, pan gafodd ei lladd.
Mae Cristian Sabou, 27, wedi ymddangos gerbron llys yn Cluj-Napoca, Rwmania, heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 11) wedi’i gyhuddo o’i lladd.
Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Sussex fod Cristian Sabou wedi ymddangos gerbron gwrandawiad estraddodi heddiw, ac nad yw wedi apelio yn erbyn y cais i ddod ag ef yn ôl i wledydd Prydain i wynebu achos.
Mae’r trefniadau yn yr arfaeth i’w gludo i Loegr, meddai’r llu, ac mae disgwyl y bydd yn ymddangos gerbron ynadon, cyn wynebu achos mewn llys y goron.