Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei drywanu mewn lôn gefn yn newyrain Llundain.
Fe gafodd plismyn eu galw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad yn Kidbrooke am 2.40yp ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 10).
Fe ddaeth yr heddlu a Gwasanaeth Ambiwlans Llundain allan, lle’r oedd y dyn 22 oed wedi cael ei drywanu nifer o weithiau.
Fe gafodd ei gludo i ysbyty yn ne’r ddinas am driniaeth, ond bu farw am 8,35yh.
Does neb eto wedi cael ei arestio, ond mae Heddlu Llundain yn dal i ymchwilio ac wedi cau’r ardal tra bod lôn gefn yn cael ei harchwilio am dystiolaeth.