Mae deg o bobol wedi cael eu lladd, a 64 wedi eu hanafu, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên yn ne Pacistan.
Bu’r digwyddiad yng ngorsaf drenau Walhar yn ardal Rahim Yar Khan, sydd yn rhanbarth Punjab.
Mae’n debyg bod y trên a oedd yn cario’r teithwyr wedi taro yn erbyn trên a oedd yn ddisymud yn yr orsaf.
Mae’r ysbytai lleol wedi cyhoeddi argyfwng wrth iddyn nhw dderbyn dioddefwyr y gwrthdrawiad, gyda rhai ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol, yn ôl llywodraeth y wlad.
Yn ôl Prif Weinidog Pacistan, Imran Khan, mae wedi tristau ar ôl clywed newyddion am y digwyddiad, ac mae wedi gorchymyn yr awdurdodau i wneud cymaint ag y gallan nhw i helpu’r dioddefwyr.
Mae byddin Pacistan wedi cael ei galw i helpu hefyd.