Mae rhai o uwch-swyddogion y Blaid Lafur wedi cael eu cyhuddo o ymyrryd yn y broses ddisgyblu sy’n ymchwilio i honiadau o wrth-Semitiaeth.
Mewn rhifyn o Panorama ar y BBC neithiwr (dydd Mercher, Gorffennaf 10), fe wnaeth wyth o gyn-swyddogion y Blaid Lafur drafod gwrth-semitiaeth a’u hanfodlonrwydd ynglŷn a’r broses i fynd i’r afael â’r broblem o fewn y blaid.
Roedd y cyfranwyr yn hynod o feirniadol o’r pennaeth cyfathrebu, Seumas Milne ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Pwyllgor Cyfansoddiad Cenedlaethol, Jennie Formby.
Roedd y ddau yn cael eu cyhuddo o gymryd camau a oedd yn atal y blaid rhag ymateb yn effeithiol i honiadau o wrth-Semitiaeth.
Mae’r Blaid Lafur wedi wfftio’r honiadau, gan feirniadu’r BBC am ddarlledu rhaglen a oedd ddim yn “ymchwiliad teg a chytbwys”.
“Roedd yn hynod anghywir, yn unochrog yn wleidyddol, ac yn mynd yn groes i safonau newyddiadurol sylfaenol, gan creu dyfyniadau a golygu e-byst er mwyn newid eu hystyr,” meddai llefarydd.
“Roedd yn ymyrraeth unochrog gan y BBC i mewn i ffrae plaid wleidyddol.”