Mae arweinydd Hong Kong wedi dweud bod mesur dadleuol a fyddai wedi’r rhoi hawl i’r awdurdodau estraddodi unigolion i Tsieina, yn “farw”.

Yn ôl Carrie Lam, mae ymdrechion i ddiwygio’r mesur wedi methu, ond dyw hi ddim wedi dweud yn glir os yw’r ddeddfwriaeth wedi cael ei gohirio, fel y bu protestwyr yn mynnu.

Mae cannoedd ar filoedd o bobol wedi bod yn protestio yn Hong Kong yn ystod y mis diwethaf, gan fynegi pryderon ynglŷn a’r ffaith bod y mesur newydd yn ymgais i gynyddu rheolaeth Tsieina ar y rhanbarth.

Yn y brotest fwyaf diweddar dros y penwythnos, fe orymdeithiodd miloedd o bobol tuag at orsaf drenau sy’n cysylltu Hong Kong gyda Tsieina.

Roedd y dyrfa fawr yn gweiddi “Rhyddewch Hong Kong” ac yn cario fflagiau o’r cyfnod pan oedd y rhanbarth yn nwylo Prydain.

Mae protestwyr hefyd wedi bod yn galw am gynnal ymchwiliad annibynnol i ddigwyddiad ar Fehefin 12, pan ddefnyddiodd yr heddlu bwledi rwber a nwy dagrau yn erbyn protestwyr.

Mae Carrie Lam wedi cadarnhau y bydd ymchwiliadau yn cael eu cynnal gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.