Mae Plaid Cymru “yn dal i ystyried” y cais i dderbyn Neil McEvoy yn ôl yn aelod o’r blaid.
Daw hyn er gwaethaf galwadau gan aelodau, yn cynnwys 11 cynghorydd sir yng Ngwynedd, i dderbyn yr Aelod Cynulliad tros Ganol De Cymru “yn ddi-oed”.
Dyw Neil McEvoy ddim wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ers iddo gael ei wahardd am gyfnod o ddeunaw mis – a newidiwyd i 12 mis wedyn – ym mis Mawrth 2018 ar ôl iddo “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid”.
Cafodd gyfle i anfon cais i ail-ymuno ym mis Mawrth eleni, ac er i’r cais hwnnw gael ei anfon i Blaid Cymru ar Fawrth 31, dyw Pwyllgor Aelodaeth, Safonau a Disgyblu’r blaid ddim wedi dod i benderfyniad eto.
Dros dri mis yn ddiweddarach, yr un yw’r ymateb gan Blaid Cymru, wrth iddyn nhw roi “ystyriaeth deg i’r dystiolaeth” sydd ger eu bron, medden nhw.
“Fel yr adroddwyd gynt, mae cais aelodaeth yn cael ei ystyried ar hyn o bryd,” meddai Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones.
“Mae’r cais hwnnw yn fater i’r Pwyllgor Safonau, Disgyblaeth ac Aelodaeth, a fydd yn rhoi ystyriaeth deg i’r dystiolaeth ger ei fron ac yn cyrraedd penderfyniad ar sail y dystiolaeth honno yn unig – nid ar sail unrhyw beth a gyhoeddir yn y wasg.
“Tra bo proses y pwyllgor yn parhau i fynd rhagddi, ni allwn wneud unrhyw sylw pellach.”