Mae dau o wledydd Prydain wedi marw mewn gwrthdrawiad traffig yn ardal Malia ar ynys Creta.
Yn ôl y wasg leol, bu farw’r dyn a’r ddynes yn syth, tra bo dynes arall wedi ei hanafu’n ddifrifol yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 6yb ddydd Llun (Gorffennaf 8).
Fe lwyddodd pedwerydd person, 18, i oroesi’r digwyddiad heb anafiadau difrifol.
Mae lle i gredu bod y pedwar yn teithio mewn 4×4 pan wrthdarodd â beic modur, ac mae’r wasg leol yn awgrymu bod tri o’r teithwyr ddim yn gwisgo gwregys.
Mae’r Swyddfa Dramor yn dweud eu bod nhw’n cefnogi teuluoedd y tri o wledydd Prydain ac yn cydweithio â’r awdurdodau lleol.