Bydd y system daliadau newydd i ffermwyr yn anelu at ddiogelu’r tir a’r amgylchedd, gan gynnig incwm sefydlog i ffermwyr ar yr un pryd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Bydd y system bresennol o gymorthdaliadau, sy’n seiliedig ar faint o dir sy’n cael ei ffermio, yn dod i ben wedi Brexit.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw disodli’r system gydag un newydd sy’n cynnig taliadau ar gyfer gwaith amgylcheddol.
Yn ôl y Gweinidog Materion Amaeth, Lesley Griffiths, y nod creu dyfodol “mwy cynaliadwy” i’r diwydiant a’r amgylchedd.
Ymgynghoriad arall
Cafodd ymgynghoriad o’r enw Brexit a’n Tir ei gynnal gan Lywodraeth Cymru y llynedd, a oedd yn cynnig dau gynllun ar wahân, gydag un yn cynnig grantiau busnes a’r llall yn gwobrwyo ffermwyr am waith amgylcheddol.
Ond erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyfuno’r ddau o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am wella ansawdd yr aer a’r tir, yn ogystal â lleihau allyriadau carbon.
Bydd y cynigion newydd yn rhan o ymgynghoriad arall – o’r enw Ffermio Cynaliadwy a’n Tir – a fydd yn cael ei gynnal yr haf hwn tan Hydref 30.
Ffermio cynaliadwy
“Mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ymateb i argyfwng yr hinsawdd a gwyrdroi’r gostyngiad mewn bioamrywiaeth yn dri o’n heriau pwysicaf heddiw,” meddai Lesley Griffiths.
“Rydym yn credu y dylai cymorth i ffermydd yn y dyfodol adlewyrchu hyn a gwobrwyo ffermwyr sy’n gweithredu i fodloni’r heriau hyn.
“Rydym am gael ffermydd cynaliadwy sy’n cynhyrchu bwyd yn ogystal â manteision ehangach i wella llesiant ffermwyr, cymunedau gwledig a phawb yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol.”
Croeso gofalus
Wrth ymateb i’r cynigion newydd, dywed Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, eu bod yn cydnabod llawer o’r pryderon a fynegwyd yn yr ymgynghoriad y llynedd.
Ond mae’n dal i fod yn bryderus ynghylch dileu taliadau uniongyrchol i ffermwyr sy’n seiliedig ar faint o dir sydd ganddyn nhw, meddai wedyn, sy’n golygu y byddai ffermwyr Cymru o dan fantais o’i gymharu â ffermwyr eraill yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae’r pryder hwn hefyd yn gysylltiedig â’r gystadleuaeth fydd gyda ffermwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon os bydd y gwledydd hyn yn cadw rhyw fath o system daliadau uniongyrchol neu safonau gwahanol sy’n rhoi mantais cystadleuol iddyn nhw…” meddai Glyn Roberts.