Mae astudiaeth newydd yn dangos fod “problem ddifrifol” gyda’r ffordd y mae cyfryngau gwledydd Prydain yn portreadu crefydd Islam a Mwslimiaid.
Roedd 59% o erthyglau gafodd eu cyhoeddi y llynedd yn cysylltu Mwslimiaid ag “ymddygiad negyddol” yn ôl Canolfan Monitro’r Cyfryngau.
Mae’r prosiect – sy’n cael ei redeg gan Gyngor Mwslimiaid Gwledydd Prydain – yn dweud ei fod wedi edrych ar 10,932 o erthyglau ac adroddiadau ar y platfformau darlledu rhwng Hydref a Rhagfyr 2018.
Yn ôl yr ymchwil roedd dros draean o’r erthyglau hyn yn “cam-gynrychioli neu’n cyffredinoli” ynglyn â Mwslimiaid.
Mae’r ymchwil yn cael ei chyflwyno yn y Senedd yn Llundain heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 9) ac mae’n dangos nad oedd “unrhyw amheuaeth am ddifrifoldeb Islamoffobia o fewn adrannau o gyfryngau gwledydd Prydain”.
Mae’n honni bod 37% o gyhoeddiadau “asgell-dde” a chrefyddol ar ben y 14% o ddarllediadau Sky News yn “rhagfarnllyd iawn”.
Roedd Daily Mail Awstralia â’r “gyfran uchaf o erthyglau” a ddadansoddwyd fel rhai “rhagfarnllyd iawn” (37%), ynghyd â chynnwys Christian Today (35%) a The Spectator (29%), yn ôl y canfyddiadau.