Mae dros hanner y gofalwyr di-dâl yng ngwledydd Prydain s yn methu cynilo arian ar gyfer ymddeol, yn ôl canlyniadau astudiaeth.

Yn ôl yr elusen Carers UK, mae 68% o ofalwyr yn defnyddio eu harian neu eu cynilion er mwyn talu am ofal am rywun arall.

Fe holodd yr elusen dros 7,500 o bobol ledled gwledydd Prydain sy’n talu am eu teulu neu ffrindiau, ac roedd 53% yn methu safio’u harian.

Mae dros wyth allan o bob ddeg, 81% o ofalwyr yn fenywod, a 39% ohonyn nhw mewn gwaith ar wahân i ofalu ac yn gweithio 50 awr yr wythnos.

Yn ôl yr ymchwil, mae llawer o’r gofalwyr rhwng 50 a 64 oed – pan maen nhw’n dechrau meddwl am eu cynlluniau ymddeol.

Dywed dau o bob pump, 39%, o ofalwyr eu bod yn cael trafferth i gael dau ben llinyn ynghyd.

Mae un o bob wyth, 12%), o ofalwyr yn dweud eu bod nhw a’r rhai mewn gofal wedi derbyn llai o ofal neu gymorth yn y flwyddyn ddiwetha’ o ganlyniad i dderbyn llai o gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol.