Mae pump o bobol wedi cael eu hanafu yn ystod ail ddiwrnod rasus teirw gŵyl San Fermin yn Sbaen.
Cafodd dau ddyn a dynes eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau i’w pennau a chleisiau difrifol, yn ôl llefarydd ysbyty yn Pamplona.
Cafodd rhedwr arall driniaeth am anafiadau eraill a chafodd pumed person ei daro yn ei gefn gan gorn ond ni chafodd driniaeth yn yr ysbyty.
Cafodd chwe tarw o fferm Cebada Gago, sy’n adnabyddus am fagu anifeiliaid ffyrnig, eu hamgylchynu gan wartheg dof am y mwyafrif o’r llwybr 930 llath i’r maes ymladd.
Golygai nad oedd gan redwyr lawer o le i redeg i ffwrdd o’r teirw.
Mae wyth o’r rasys teirw yn cael eu cynnal yn San Fermin bob mis Gorffennaf.