Mae chwech o bobol wedi’u lladd a 190 wedi’u hanafu ar ol i gorwynt chwythu drwy un o ddinasoedd Tsieina.

Mae ffatrïoedd ac adeiladau eraill hefyd wedi cael eu difrodi yn ninas Kaiyuan yng ngogledd-ddwyrain y wlad..

Cafodd ffatrïoedd ac offer mewn parc diwydiannol eu difrodi  ac mae dros 210 o bobl wedi cael eu hachub, a 1,600 arall wedi gorfod ffoi.

Mae corwyntoedd yn bethau prin yn Tsieina. Yn 2016 cafodd 98 o bobol eu lladd gan gorwynt yn nhalaith ddwyreiniol Jiangsu.