Mae peryg ystyried cenedlaetholdeb Cristnogol yn “air brwnt” yn yr oes sydd ohoni, meddai awdur sydd newydd gyhoeddi llyfr am y gweinidog R Tudur Jones.

Mae Tynged Cenedl: Cenedlaetholeb Gristnogol (Cyhoeddiadau’r Gair) gan Rhys Llwyd yn astudiaeth o genedlaetholdeb Cristnogol y diwinydd, R Tudur Jones (1921-1998), a bydd yn cael ei fwrw i’r byd heno (nos Iau, Gorffennaf 4) ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle.

ae’r gyfrol academaidd hefyd yn rhoi sylw i ffigyrau amlwg eraill o fewn y mudiad cenedlaethol yng Nghymru yn yr 20fed ganrif – Gwynfor Evans yn eu plith – gan ystyried sut y gwnaeth eu ffydd ddylanwadu ar eu gwleidyddiaeth.

Yn ôl yr awdur ei hun, mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng “cenedlaetholdeb iach” – fel yr un o eiddo R Tudur Jones a Gwynfor Evans – a “chenedlaetholdeb mwy afiach”.

Wrth ymhelaethu ar yr olaf, ychwanega fod cefnogwyr Donald Trump, a hyd yn oed rhai o gefnogwyr Brexit, yn “camddefnyddio” Cristnogaeth heddiw er mwyn “amddiffyn eu safbwyntiau gwleidyddol eu hunain”.

“Yn y bôn, mae’r gwerthoedd Cristnogol yn werthoedd o oddefgarwch, o ddathlu amrywiaeth, ac o weld undod mewn amrywiaeth, lle mae cenedlaetholdeb traddodiad Donald Trump ac yn y blaen i’r gwrthwyneb i hynny,” meddai Rhys Llwyd.

“Maen nhw jyst yn trio rhoi rhyw stamp o unffurfiaeth ar bawb a thrio lladd yr amrywiaeth.”

Bod yn Gristion ac yn ghenedlaetholwr

Cafodd Rhys Llwyd, a enillodd radd PhD am ei astudiaeth, ei ddenu at waith R Tudur Jones yn ystod ei ddyddiau fel myfyriwr, ac yntau wedi ei rwygo yn y brifysgol rhwng carfan y cenedlaetholwyr Cymreig a charfan y Cristnogion.

Mae’n ychwanegu bod yr ymchwil i syniadaeth y diweddar ddiwinydd a’r Athro wedi bod yn “daith… i ddarganfod fy hun” ac yn ymgais i uno ei ffydd gyda’i genedlaetholdeb…

“Mae gyda chi rai sy’n trio dweud bod yn rhaid ichi ddewis,” meddai Rhys Llwyd wedyn. “‘R’ych chi’n naill ai’n Gristion neu r’ych chi’n genedlaetholwr, a ble mae eich teyrngarwch chi’n eistedd?’

“Roeddwn i eisiau dangos bod modd bod yn Gristion a bod modd bod yn genedlaetholwr hefyd, a bod y ddau beth yn gallu bod yn rhan o hunaniaeth rhywun.”

Dyma glip o Rhys Llwyd yn sôn ymhellach am y cenedlaetholdeb Cristnogol y glynai unigolion fel R Tudur Jones a Gwynfor Evans…