Mae beth bynnag 27 o bysgotwyr wedi marw wedi i’w cwch suddo yn ystod tywydd mawr oddi ar arfordir gogleddol Hondwras.
Mae naw o bobol yn dal i fod ar goll, ac mae 55 o bobol eraill wedi cael eu hachub o’r dŵr.
Mae llefardydd ar ran llynges Hondwras yn cadarnhau i’r cwch, Capt Waly, fynd allan mewn tywydd oedd ddim yn addas ar gyfer pysgota, a’i fod wedi mynd ar goll tua 40 milltir o’r lan.
Y gred ydi fod y cwch wedi suddo ger Cayo Gorda, ardal i’r gogledd-ddwyrain o bwynt eitha’ arfordir Hondwras.
Roedd cwch pysgota arall, yn cario 49 o ddynion, wedi mynd i lawr yn yr un ardal ychydig amser ynghynt, ond bod pob un ar fwrdd y cwch hwnnw wedi cael ei achub.