Mae Heddlu’r De wedi derbyn hwb ariannol o £1.2m er mwyn mynd i’r afael â throseddau cyllyll.
Cafodd y buddsoddiad ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref ym mis Mai, ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio i ymestyn ‘Op Sceptre’, tîm sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ac i greu tîm newydd yn Abertawe.
Fe fydd rhywfaint o arian hefyd yn cael ei neilltuo ar gyfer cynlluniau gyda phobol ifanc er mwyn atal troseddau â chyllyll. Ystadegau yn y de
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi ystadegau ynghylch troseddau â chyllyll o fewn eu hardal dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, maen nhw wedi arestio 220 o bobol, ac wedi tynnu 90 o arfau oddi ar y strydoedd.
Maen nhw wedi meddiannu gwerth mwy na £82,000 o gyffuriau, a £77,500 mewn arian parod.
Maen nhw hefyd wedi stopio a chwilio pobol 758 o weithiau, ac wedi sicrhau dedfrydau o garchar o fwy na 22 o flynyddoedd.
“Mae troseddau â chyllyll yn bryder amlwg i’n cymunedau, yn enwedig yn dinasoedd yng Nghaerdydd ac Abertawe,” meddai Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu’r De.
“Mae’r materion rydyn ni’n eu hwynebu’n sylweddol – efallai nad ydyn nhw mor fawr â rhai dinasoedd eraill, ond maen nhw’n drasiedïau i’r teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan droseddau ofnadwy.”