Mae Rahul Gandhi, arweinydd gwrthblaid India, wedi camu o’r neilltu yn dilyn sawl siom mewn etholiadau diweddar.

Daeth ei ymddiswyddiad ar Twitter heddiw, wrth iddo ddweud bod camu o’r neilltu yn “hanfodol ar gyfer twf ein plaid yn y dyfodol”.

Dywed fod Narendra Modi, prif weinidog India, wedi defnyddio “holl beiriannau gwladwriaeth India” er mwyn trechu plaid y Gyngres mewn sawl etholiad.

Collodd Rahul Gandhi ei sedd ei hun yn yr etholiad, gan ddod â thraddodiad teuluol hir i ben.

Roedd ei hen dad-cu, ei fam-gu a’i dad i gyd yn brif weinidogion.