Mae awdurdodau Japan wedi galw ar dros filiwn o bobol yn ne ynys Kyushu i ffoi o’u cartrefi, wrth i law trwm greu pryder am dirlithriadau a llifogydd.

Yn ôl Gwasanaeth Tan a Rheoli Trychineb y wlad, mae’r cyfarwyddyd wedi’i roi i dri rhanbarth. Mae ‘cyfarwyddyd’ yn gryfach na ‘chyngor’ ond nid oes cosb os nad yw pobol yn ufuddhau.

Mae glaw trwm wedi bod yn syrthio yn ne Japan ers dydd Gwener (Mehefin 28).

Fe gafodd hen ddynes ei lladd mewn tirlithriad yn Kagoshima, ac mae dwsinau o dai wedi gorlifo â dŵr ac mae 14,000 o filwyr yn barod i fynd i’r afael ag argyfwng, os oes angen.