Mae ymchwiliad ar y gweill i farwolaethau dau o weithwyr Network Rail ar y cledrau ym Mhort Talbot fore heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 3).

Mae cryn oedi yn dilyn y digwyddiad, ac mae’n bosib y bydd rhai teithiau o Ben-y-bont ar Ogwr yn cael eu canslo neu eu gohirio am hyd at 90 munud.

Mae rhai o deithiau Great Western Railway yn cael eu dargyfeirio, fel eu bod yn osgoi gorsafoedd Pen-y-bont ar Ogwr a Phort Talbot Parkway.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n trefnu bysus rhwng Caerdydd Canolog ac Abertawe, ond does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Mae’r heddlu’n cynnig cefnogaeth a gofal i deithwyr ar y trên a gafodd ei effeithio fore heddiw.

Ymateb

Yn dilyn y newyddion, mae Stephen Kinnock, yr aelod seneddol lleol, yn dweud ei fod yn “gofidio’n fawr” ynghylch y “newyddion ofnadwy”.

Yn ôl Manuel Cortes, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Staff Cyflogedig Trafnidiaeth, mae “rhywbeth wedi mynd o’i le”, ac mae’n dweud ei fod e am “dalu teyrnged” i waith y gwasanaethau brys.

Mae’n galw am ymchwiliad i’r digwyddiad gan nad yw’n “dderbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain fod pobol yn mynd allan i weithio ac yn colli eu bywydau”.

Mae Network Rail wedi mynegi eu “sioc” yn dilyn y digwyddiad, wrth gadarnhau bod dau aelod o staff wedi marw.

Dywed Chris Grayling, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain, ei fod yn “drist iawn”, gan ychwanegu y bydd “yn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu”.