Mae teulu dynes a gafodd ei saethu i farwolaeth yn Las Vegas ar Hydref 1, 2017, yn siwio wyth cwmni gynnau a thri deliwr.

Y ddadl yw bod gynnau’r gwneuthurwyr wedi cael eu cynllunio mewn ffordd sy’n hawdd i’w haddasu i danio fel gynau awtomatig.

Y cyfreithwyr, sy’n targedu cwmni Colt a saith arall, ar ben siopau gynnau yn Nevada a Utah, yw’r diweddaraf i roi her i gyfraith ffederal sy’n gwarchod gwneuthurwyr gynnau o gyfrifoldeb.

Mae’r cyfreithwyr yn pwyntio at y ffaith bod y gwneuthurwyr gynnau wedi marchnata gynnau AR-15 fel rhai sy’n gallu cael eu haddasu yn hawdd fod fel gynnau awtomatig sy’n gallu saethu yn sydyn ac yn barhaus gan fynd yn erbyn.

Mae gynnau awtomatig wedi eu gwahardd cyfreithiau taleithiol Nevada a ffederal yr Unol Daleithiau.

Yn ôl teulu Carrie Parsons, 31, o Seattle, mae’r gynnau yn cael eu cuddio fel gynnau awtomatig ac mae’r gwneuthurwyr yn gwybod hynny.

Roedd addasiad a ddefnyddiwyd gan saethwr Las Vegas wedi ei alluogi i danio yn gyflym, gan ladd 58 o bobl ac anafu dros 800 yn yr achos saethu torfol mwyaf yn hanes modern yr Unol Daleithiau.