Mae babi bach gwraig a gafodd ei thrywanu i farwolaeth yn Llundain dros y Sul, wedi marw.

Roedd Kelly Mary Fauvrelle, 26, wedi cario ei mab am wyth mis, cyn iddi gael ei llofruddio yn ei chartref yn Thornton Heath, de Llundain, yn ystod oriau mân dydd Sadwrn, Mehefin 29.

Fe lwyddodd parafeddygon i eni ei mab, ac fe gafodd ei enwi’n Riley gan deulu ei fam.

Ond fe fu farw’r baban yn ystod oriau mân heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 3).

Fe ddaw’r newyddion trist wrth i Heddlu’r Met ryddhau lluniau camera cylch cyfyng o ddyn yn cael ei weld yn cerdded tuag at y tŷ, cyn rhedeg oddi yno rai munudau’n ddiweddarach.