Ar ddiwrnod cynhadledd y G20,  mae un o wleidyddion amlycaf yr Undeb Ewropeaidd wedi ceryddu Vladimir Putin.

Mewn cyfweliad â’r Sunday Times mae Arlywydd Rwsia wedi dweud bod cyfnod rhyddfrydiaeth – yr athroniaeth sydd wrth wraidd hawliau dynol a rhyddid y wasg – “wedi dod i ben”.

Gydag arweinyddion y byd yn cyfarfod yn Japan heddiw, mae arweinydd y Cyngor Ewropeaidd wedi beirniadu Vladimir Putin yn hallt.

“Rydym ni yma yn Ewropeaid,” meddai Donald Tusk, “ac rydym ni yma gyda’r nod o amddiffyn a hybu democratiaeth ryddfrydol.

“Awdurdodaeth, gogoneddu arweinwyr, a rheolaeth dynion busnes – does dim lle i’r rhain yn ein byd ni bellach. Dw i’n dweud hynny, er ei bod nhw’n effeithiol weithiau.”